Mae ein digwyddiad Cerdded Cymru poblogaidd yn ôl ar gyfer ein pen-blwydd yn 20 oed, ond gyda newid!
Mae ‘Cerdded Cymru – Castell i Gastell’ yn gyfle gwych i gadw'n heini a chodi arian ar gyfer achos sy'n achub bywydau.
Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae'n bwysig gofalu am ein llesiant corfforol a meddyliol, a pha ffordd well na'n her Cerdded Cymru newydd. Gellir cwblhau hyn gartref, yn yr ardd, ar grwydr, wrth gerdded eich ci neu ar beiriant rhedeg.
Bydd pob cam yn gwneud gwahaniaeth, gadewch i ni eu cymryd gyda'n gilydd.
Cliciwch yma i weld ein cytundeb codi arian.
Cofrestru
Ledled Cymru mae gennym dirweddau hardd, mynyddoedd, arfordiroedd, parciau a threfi Cenedlaethol, ond hefyd rhai o'r cestyll harddaf a geir yn unrhyw le yn y byd.
Ymunwch â ni ym mis Mehefin trwy gerdded y pellter cyfatebol rhwng rhai o gestyll hanesyddol Cymru.
Mae gennym chwe her i ddewis ohonynt (isod) a gallwch eu gwblhau rhwng dydd Mawrth, Mehefin y 1af a dydd Mercher 30ain o Fehefin.
Felly, cofrestrwch a pharatowch i 'Gerdded Cymru'.
Hebddoch chi, ni fyddem yn bodoli. Read more
Cymerwch y cam cyntaf, cofrestrwch heddiw! Read more
Casglwch arian nawdd ar gyfer eich her. Read more
Dysgwch fwy am ein dewis o gestyll yng Nghymru. Read more
Rhannwch eich cynnydd. Read more
Read more
Cymerwch olwg ar ein gweithgareddau a lliwio. Read more
Cynyddwch eich gallu i godi arian a rhannwch eich siwrne gyda'r adnoddau yma. Read more