Ymunwch â ni ar 14 Hydref 2022 am noson arbennig o godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ac i ddathlu ein gwasanaeth achub bywydau i bobl Cymru.
Bydd y Digwyddiad Mawreddog yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Coal Exchange, sef adeilad Rhestredig Gradd II* hardd ym Mae Caerdydd.
Noson gwisg ffurfiol fydd hon a bydd yn cynnwys diodydd croesawu, cinio tri chwrs bendigedig yn y neuadd fawr, arwerthiant, ac adloniant ar ddiwedd y nos.
Archebwch eich tocyn am noson llawn dathlu ac ysbrydoliaeth.
Dyddiad
Nos Wener 14 Hydref 2022. 7.30pm tan yn hwyr.
Lleoliad
Gwesty'r Coal Exchange, Y Gyfnewidfa Lo, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
Gwisg
Ffurfiol
Gwybodaeth am Docynnau
Mae dewis o dri math o fwrdd ar gael, sef emrallt, lliw gwin ac aur. Mae'r pecynnau'n dechrau o £650 am fwrdd o 10.
Llety
Bydd ystafelloedd ar gael am bris gostyngol i holl westeion y Noson Fawreddog. Ffoniwch Westy'r Coal Exchange yn uniongyrchol i drefnu. Sylwch mai nifer cyfyngedig o'r ystafelloedd hyn sydd ar gael, a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y Noson Fawreddog neu os hoffech gefnogi'r digwyddiad mewn ffordd arall, cysylltwch ag Elin Murphy, Swyddog Digwyddiadau Codi Arian [email protected]
Read more