Mynnwch le am ddim nawr yn y digwyddiad rhedeg hwn sy'n berffaith at yr Haf. Mae enw da gan Hanner Marathon Abertawe am fod yn gwrs cyflym a gwastad sy'n cwmpasu holl harddwch Bae Abertawe. Bydd y golygfeydd godidog yn eich helpu i gwblhau'r cwrs 13.1 milltir o hyd.

Cynhelir Hanner Marathon Abertawe JCP, SYDD WEDI ENNILL SAWL GWOBR, unwaith eto yn 2021. Yn dilyn pleidlais hwn oedd hanner marathon gorau'r DU (2017 a 2018) a hanner marathon mwyaf a gorau Cymru. Dewch i #RhedegAbertawe.

Cewch redeg i AAC am ddim pan fyddwch yn ymrwymo i godi o leiaf £200 a byddwch yn cael:

  • Mynediad am ddim i'r digwyddiad
  • Crys rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru gwerth £30
  • Cymorth gan eich cydgysylltydd cymunedol lleol

ar ben y pethau arferol a geir drwy redeg Hanner Marathon Abertawe, sef:

  • crys-t y digwyddiad
  • medal bwrpasol
  • dŵr
  • jelïau egni
  • camwyr
  • ffyrdd caeedig

Am ragor o wybodaeth am Hanner Marathon Abertawe, cliciwch yma.

Booking for this event has now closed.