Ar 6 Ebrill 2020, heriodd Capten Tom Moore ei hun i gerdded o amgylch ei ardd gefn 100 o weithiau i ddiolch i arwyr y GIG; gan ysbrydoli miloedd o bob cwr o'r byd a chodi swm anhygoel o £38.9 miliwn ar gyfer apêl COVID-19 y GIG. Eich tro chi yw hi nawr i adeiladu ar ei waddol.

Ddydd Gwener 30 Ebrill, byddai Syr Capten Tom wedi dathlu ei ben-blwydd yn 101 oed, ac i dalu teyrnged iddo, hoffai ei deulu annog pawb o bob oedran a gallu i gymryd rhan yn her Capten Tom 100 ar gyfer eich hoff elusen.

Os hoffech gwblhau'r her hon i godi arian i ni, dyma sut y gallwch gymryd rhan:

Byddwch yn Greadigol – Meddyliwch am eich her 100 P'un a yw hynny'n cynnwys dysgu 100 o eiriau Cymraeg newydd, cerdded 100 metr neu ddawnsio am 100 o funudau, mae'r opsiynau yn ddiddiwedd!

Cymerwch Ran - Dylech greu tudalen codi arian a chwblhau eich her 100 unrhyw bryd rhwng dydd Gwener 30 Ebrill a dydd Llyn 3 Mai.

Rhowch, Rhannwch ac Enwebwch - Rhannwch eich tudalen codi arian ar y cyfryngau cymdeithasol a gofynnwch i ffrindiau a theulu gefnogi eich her 100 - neu enwebwch nhw i gwblhau eu her eu hunain drwy ddefnyddio #CaptenTom100.

Gadewch i ni helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o unigolion fel Capten Tom a chadw ei waddol yn fyw am byth.

JOIN VIA JUST GIVING   JOIN VIA VIRGIN GIVING 

Booking for this event has now closed.