Marathon Metrig Caer Mynnwch eich lle am ddim ym Marathon Metrig Caer MBNA. Ras 26.2km (16.3 milltir) yw hwn, sy'n cynnig y cam perffaith o hanner marathon i farathon llawn. Mae'r cwrs yn mynd ar hyd ffyrdd caeedig, a byddwch yn rhedeg heibio i bob un o atyniadau eiconig Caer (y Waliau Rhufeinig, yr Eglwys Gadeiriol, y Rhesi Canoloesol, Cloc Eastgate, yr Amffitheatr) cyn cychwyn am gefn gwlad godidog Swydd Gaer a'i phentrefi. Byddwch yn ymuno â rhedwyr y marathon ar ôl 8.5 milltir ac yn dychwelyd i Gaer ar hyd glannau Afon Dyfrdwy i orffen mewn ffordd fythgofiadwy yn y Cae Ras. Mae'r gefnogaeth yn y pentrefi a'r cymunedau ar hyd y cwrs yn un o blith nifer o uchafbwyntiau'r ras. Cewch redeg i AAC am ddim pan fyddwch yn ymrwymo i godi o leiaf £150 a byddwch yn cael: Mynediad am ddim i'r digwyddiad Crys rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru gwerth £30 Cymorth gan eich cydgysylltydd cymunedol lleol ar ben y pethau arferol a geir drwy redeg 10K Cael, sef: crys-t y digwyddiad medal bwrpasol I gael rhagor o wybodaeth am Marathon Metrig Caer cliciwch yma. Booking for this event has now closed. Manage Cookie Preferences