Hanner Marathon Caerdydd 2021 Ydych chi'n barod i wynebu eich her nesaf? Ydych chi'n awyddus i godi arian at achos gwych? Os 'ydw' yw eich ateb i'r ddau gwestiwn, yna mae gennym y cyfle perffaith i chi! Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod gennym leoedd elusennol AM DDIM ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd eleni. Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi tyfu'n ras fwyaf Cymru, gyda mwy na 27,500 o athletwyr yn cymryd rhan a miloedd o wylwyr a chefnogwyr yn eu cymell ar hyd y ffordd. Gyda chwrs gwastad a chyflym, gallwch fwynhau golygfeydd godidog ac eiconig ar hyd y daith, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality a Bae Caerdydd. P'un a fyddwch yn rhedeg eich 100fed ras neu eich ras gyntaf, byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â'n tîm – Tîm AAC. Cewch gymryd rhan AM DDIM drwy ymrwymo i godi o leiaf £200 i ni. Pa gymorth y byddwch yn ei gael? Drwy ymuno â thîm AAC, byddwch yn cael y cymorth canlynol: Cyngor ar godi arian Fest rhedeg am ddim pan fyddwch yn codi £100 Cefnogaeth lawn gan aelod o staff AAC Stondin AAC ym Mhentref y Rhedwyr ar y diwrnod Tyliniad am ddim ar ôl y digwyddiad Rhôl bacwn ar ôl y digwyddiad Edrychwn ymlaen at eich helpu ar hyd eich taith codi arian! Book a place Ticket Quantity Price Enquiry Lloedd am ddim: We don't have this quantity of tickets. Your quantity has been set to the maximum available Enquire