Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr CymruMae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr. Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis. . . . "Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru. Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig. Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig." . . . Hafan Gwirfoddoli i AAC Ynglŷn â gwirfoddoli Mathau o Wirfoddoli Manteision Gwirfoddoli 20 ffordd o wirfoddoli yn 2020 Astudiaethau Achos Dod yn Wirfoddolwr Cyfleoedd sydd ar gael Cysylltwch â Ni Cais Gwirfoddoli Popeth sydd ei angen arnoch Blog Gwirfoddolwr Hysbysfwrdd Canolfan Adnoddau Cwestiynau Cyffredin Gwirfoddoli yn dilyn y cyfyngiadau symud Dyma'r argyfwng iechyd mwyaf sydd wedi wynebu'r genedl bresennol. Mae'r coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar ein hiechyd ni a'n hanwyliaid, wedi effeithio ar fusnesau, wedi rhoi ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol dan straen aruthrol ac wedi gwahanu teuluoedd. Ond llwyddodd hefyd i ddod â'r gorau allan o bob un ohonom. Gwnaeth cannoedd ar filoedd ohonom wirfoddoli i helpu'r GIG pan oedd y sefyllfa o ran y coronafeirws ar ei gwaethaf. Aethom ati i ddosbarthu eitemau hanfodol, helpu ein cymdogion, clapio i'n nyrsys a'n meddygon dewr a bod yn glust i'r rheini a oedd wedi'u hynysu. Felly beth yw'r camau nesaf wrth i ni addasu i'r drefn newydd? A oes ffordd o fanteisio ar botensial y fyddin o wirfoddolwyr sy'n teimlo bod llawer mwy i'w roi a bod mwy o ffyrdd i helpu pobl? Efallai mai cofrestru i fod yn wirfoddolwr gydag Ambiwlans Awyr Cymru yw'r cam nesaf i chi, neu eich profiad cyntaf o wirfoddoli. Wrth i'n bywydau brysuro, mae'n werth cymryd eiliad a chofio'r hyn a oedd bwysicaf i ni yn ystod y cyfyngiadau symud: y cysylltiad â'n hanwyliad a bod yn barod i helpu pan oedd angen. Efallai ein bod wedi methu'r gallu i fynd i dafarnau a siopau, ond methu â chael cwtsh gan ein hanwyliaid oedd anoddaf. Ein cenhadaeth ni yn Ambiwlans Awyr Cymru yw bod yno i bobl pan fo'i angen arnynt fwyaf. Nid yw'n cymryd llawer i chi wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau'r rheini rydym yn eu hachub. O helpu mewn siopau, i ymuno â'n timau mewn digwyddiadau codi arian neu gyflawni tasgau gweinyddol – mae digon o opsiynau i chi ddewis o'u plith. Os ydych yn teimlo nad oes amser gennych mwyach i gymryd rhan wrth i'ch bywydau fynd yn ôl i'r drefn arferol, cysylltwch â ni: efallai bydd cyfle gennym sy'n addas ar gyfer yr amser sydd gennych i'w roi. Un peth sy'n sicr yn y byd ansicr hwn yw y bydd bob amser angen achub bywydau. Manage Cookie Preferences