Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Mae iechyd a lles yn bwysig i bawb ar hyn o bryd.

Er bod angen i ni sicrhau ein bod yn cadw mor heini â phosibl, mae'n hollbwysig ein bod yn diogelu ein hiechyd meddwl hefyd.

Mae ein hiechyd meddwl wedi bod o dan straen aruthrol dros yr ychydig fisoedd diwethaf gan deimlo'n ynysig, wedi ein gwahanu o'n hanwyliaid ac wedi diflasu.

Sut y gallwn wella ein gwydnwch meddyliol wrth i ni ddychwelyd yn araf bach at y gymdeithas?

Er bod gan therapi a meddyginiaeth ran i'w chwarae, mae gweithgareddau cadarnhaol eraill a all wella ein cydbwysedd meddyliol a rhoi strwythur newydd i'n bywydau.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ailysgogi'r meddwl a helpu eraill.

Mae gennym dîm gwych o wirfoddolwyr yma yn Ambiwlans Awyr Cymru sy'n darparu cyswllt hollbwysig rhwng ein criwiau sy'n achub bywydau a'r rheini y cynigir cymorth iddynt mewn argyfwng. Yn syml, heb ein gwirfoddolwyr, ni fyddai gwasanaeth ambiwlans awyr yn bosibl.

Sut mae gwirfoddoli yn helpu i wella iechyd meddwl? Dyma saith ffordd:

 

  1. Gall leihau teimladau ynysig: Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae pob un ohonom wedi teimlo ar adegau ein bod wedi cael ein gwahanu neu ein bod yn bell oddi wrth y rheini sydd bwysicaf i ni. Mae'n hollbwysig ein bod yn ail-greu cysylltiadau, ac mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ymarfer sgiliau cymdeithasol, gadael y tŷ a chymysgu ag eraill. Ond nid dim ond yr henoed sy'n dioddef o unigrwydd. Dangosodd astudiaeth gan yr Arolwg Bywyd Cymunedol mai pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed oedd fwyaf tebygol o deimlo'n ynysig.
  2. Rhoi ymdeimlad o ddiben neu bwrpas: Gallai pobl sydd wedi dioddef o iselder deimlo nad oes diben i'w bywyd. Gall gweithgareddau gwirfoddoli ail-greu'r teimlad fod gennych ran i'w chwarae mewn cymdeithas, eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a bod pwrpas i'r hyn rydych yn ei wneud i helpu eraill.
  3. Gwella hyder: Pa ffordd well o wella eich hyder eich hun na chymryd rhan mewn gweithgaredd sy'n mynd ati i wella bywydau pobl eraill? Drwy wirfoddoli, gallwch ddatblygu ymdeimlad o gyflawniad a boddhad a allai helpu mewn agweddau eraill ar eich bywyd.
  4. Gwella ‘effaith hapusrwydd’: Yn ôl ymchwil gan Ysgol Economeg Llundain, po fwyaf rydym yn gwirfoddoli, yr hapusach y byddwn yn ei deimlo! Dywedodd y rheini a oedd yn gwirfoddoli bob mis eu bod yn ‘hapus iawn’ 7% yn fwy na'r rheini nad oeddent yn gwirfoddoli o gwbl. Roedd lefelau hapusrwydd y rheini a oedd yn gwirfoddoli bob wythnos 16% yn uwch. Nid dim ond eich iechyd meddwl fydd yn gwella, dangoswyd hefyd bod gwirfoddoli am 200 o oriau bob blwyddyn yn gostwng pwysedd gwaed.
  5. Rhoi strwythur: Gall sesiynau gwirfoddoli rheolaidd roi ymdeimlad hollbwysig o strwythur i wythnos, a gallant gynnig cyfleoedd i gael gwaith llawn amser a help wrth greu CV.
  6. Gallai arwain at gyfeillgarwch gydol oes: Rydym yn griw cyfeillgar iawn a byddwn bob amser yn rhoi croeso cynnes i chi, ond gallai'r bobl newydd rydych yn cyfarfod â nhw heddiw ddatblygu i fod yn ffrindiau gydol oes. Gorau po fwyaf o ffrindiau cadarn sydd gennych i rannu eich beichiau – neu ddim ond paned o goffi hyd yn oed – ac mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd.

 

  1. Mae helpu eraill yn rhoi ymdeimlad o bersbectif: Yn aml iawn, drwy gyfarfod ag amrywiaeth eang o bobl, gallwn roi ein profiadau ein hunain mewn cyd-destun. Drwy dreulio amser gydag eraill, gall helpu i leihau'r pwyslais ar ein meddyliau ein hunain a'n gwneud i deimlo'n fwy cadarnhaol.

Beth bynnag fo'ch rheswm dros wirfoddoli, gall fod yn brofiad gwerth chweil a all newid eich bywyd mewn ffordd gadarnhaol.

Os ydych yn cael profiad o broblemau iechyd meddwl, dylech ystyried siarad â'ch meddyg teulu neu gysylltu â Mind Cymru. Ceir rhagor o fanylion yma.