Yn 2021, bydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed. Rydym wedi cyrraedd y garreg filltir hon, diolch i chi, bobl Cymru.
I'n cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr – yn y gorffennol a heddiw. Rydych bob amser wedi ateb ein galwadau i roi arian a rhannu eich amser. Diolch i chi, mae gennym un o'r gweithrediadau ambiwlans awyr mwyaf datblygedig yn feddygol a'r mwyaf o ran maint yn Ewrop, ac mae ar waith 24/7. Diolch yn fawr.
I'n staff, ein Hymddiriedolwyr, ein meddygon, ein peilotiaid a'n dyranwyr - yn y gorffennol a heddiw. Eich brwdfrydedd a'ch dyfalbarhad yw'r sail gadarn yr adeiladwyd Ambiwlans Awyr Cymru arni. Diolch yn fawr.
Ers ei sefydlu, mae eich Elusen wedi ymateb i bron 38,000 o alwadau. Mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr 24/7.
Eich Elusen chi yw hon, ac mae gennych wasanaeth unigryw bellach sy'n sefyll ben ac ysgwyddau uwchben y lleill – felly, diolch i chi.
Diolch i chi, gallwn wasanaethu Cymru, ac achub bywydau.
Cymerwch olwg ar ein gwasanaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf. Read more
Heddiw (01/03/21), ar achlysur ei phen-blwydd yn 20 oed, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn edrych yn ôl ar ei hanes anhygoel ac yn talu teyrnged i bawb sydd wedi cyfrannu at ei gwasanaeth achub bywydau. Read more